Clwb Bowlio Morfa Mawr
Sefydlwyd 1954(Aelodaeth gyswllt o Gymdeithas Bowlio Ceredigion)
Sefydlwyd Clwb Bowlio Morfa Mawr ar Ddydd Iau 4 Mawrth 1954 mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn yr YMCA dan gadeiryddiaeth W. G. Harries a oedd yn dirprwyo dros J. O. Jones, Postfeistr Aberystwyth.
Ar gynnig Mr. Lewis J. Williams, a eiliwyd gan Mr. Llew Wright ffurfiwyd pwyllgor gyda’r bwriad o sefydlu clwb bowlio ar Faes Hamdden y Morfa Mawr. Aelodau’r pwyllgor oedd y Meistri J. O. Jones. L. J. Williams, T. Hughes, I. Rudd ac E. O. Ellis.
Caniataoedd Cyngor Bwrdeistref Aberystwyth defnydd o ddwy lain bowlio rhwng 6.00 a’r cyfnos o Ddydd Llun hyd ar Ddydd Gwener, a hynny’n ddibynnol ar daliad o ddeg swllt am bob llain ar bob noson.
Sefydlwyd y Gynghrair o 24 o dimau yn cynnwys dros 100 o chwaraewyr. Ni welwyd prinder o fowlwyr yn Aberystwyth. Ni allai neb fod wedi rhagweld pa mor llwyddiannus y byddai’r gynghrair gyda bron ddwywaith gymaint o aelodau ynddi erbyn hyn. Roedd dros 90 o dimau wedi cymryd rhan yn y gynghrair yn ystod y 25 mlynedd gyntaf ei bodolaeth.
Er i niferoedd y timau ostwng yn y 1960au, bu cynnydd yn y 1970au gan arwain at sefydlu dwy adran.
Nid yn unig mae’r gynghrair wedi profi’n llwyddiant, mae Clwb Morfa Mawr wedi profi’n dîm o safon o fewn Cynghrair Ceredigion. Ers ymuno â Chynghrair y Sir yn 1973, ni orffennodd y clwb y tu allan i’r tri uchaf. Cyrhaeddwyd uchafbwynt yn 1975 wrth i’r Clwb ennill pencampwriaeth y Sir.
Yn ogystal, enillwyd y Cambrian News Rose Bowl yn 1975, ar ôl colli yn y rownd derfynol ar y cynnig cyntaf yn 1970.
Dangosodd hyn i’r Clwb fod yn feithrinfa i chwaraewyr o safon a ddaeth i gynrychioli’r Sir, ac aeth rai ymlaen i ennill cystadlaethau sirol a chenedlaethol.
Daeth un anrhydedd pwysig i’r Clwb yn 1979 pan etholwyd Mr. Barry Davies, llywydd yn clwb yn 1978, yn Llywydd Sirol yn 1979.
Dyma obeithio y bydd y 25 mlynedd nesaf yn sicrhau mwy o anrhydeddau i’r Clwb ar lefel sirol ac o bosib ar lefel cenedlaethol.